Undeb lafur yw Undeb yr Ysgrifenwyr (Writers’ Guild of Great Britain). Mae’r undeb yn cynrychioli dros 3,000 o awduron sy’n ysgrifennu ar gyfer sawl cyfrwng gan gynnwys teledu, ffilm, radio, theatr, llyfrau a gemau cyfrifiadurol. Mae’r undeb yn negydu cytundebau a thelerau gyda darlledwyr a chyrff sy’n cynrychioli’r theatrau. Mae’r Undeb yn lobio ar nifer o faterion sydd o bwys i ysgrifenwyr yn y Cynulliad, San Steffan ac yn y Senedd Ewropiaidd. Mae’r Undeb yn cydweithio â’r undebau adloniant eraill ar faterion sy’n cyffredin i weithwyr llawrydd.

Yng Nhymru mae’r Undeb yn negydu yn uniongyrchol ar ran ysgrifenwyr gydag S4C a Pobol y Cwm. Mae cangen yr undeb yng Nghymru yn weithgar tu hwnt ac mae’n arwain ymgyrchoedd ar faterion megis dyfodol S4C, polisiau’r Cyngor Llyfrau a rhaglenni ysgriennu newydd y theatrau.