Mae WGGB wedi cefnogi llythyr agored i National Theatre Wales (NTW) wedi’i lofnodi gan 40 o ddramorwyr blaenllaw yng Nghymru.
Wedi’i gyfeirio at Gadeirydd Clive Jones, mae’n galw am drafodaeth gyhoeddus am bwrpas y sefydliad, ac yn nodi bod “ein hofnau fel cymuned artistig ynglŷn â chyfradd gynhyrchu theatrig isel NTW ers ymadawiad John McGrath [cyn-gyfarwyddwr artistig, a adawodd yn 2015 ] yn gyfrinach agored”.
Mae’r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud “Yn y cyd-destun hwn ‘rydym eisiau annog trafodaeth ynglŷn â pha fath o theatr genedlaethol yr ydym yn ei ddymuno. Rydym am iddi fod yn theatr. Rydym am iddi fod yn Gymreig. Dyma ddau beth yr oeddem yn meddwl y gallem eu cymryd yn ganiataol.”
Mae’r llythyr yn galw ar y bwrdd i ailwampio nodau ac amcanion NTW fel bod:
• Gan bob sioe a gynhyrchir gan National Theatre Wales artist Cymreig neu artist wedi eu lleoli yng Nghymru fel prif artist.
• Angen i artistiaid a chwmnïau nad ydynt yn Gymreig neu wedi eu lleoli yng Nghymru fod yn 1) o safon byd-eang, a 2) yn ymwneud â chefnogi artist Cymreig neu wedi eu lleoli yng Nghymru yn unig.
• Rhaid i sioe National Theatre Wales gael theatr ynddo. Os yw’n gân yna mae’n gân. Os yw’n noson gomedi, yna mae’n noson gomedi. Ond os nad yw’n theatr mewn gwirionedd, ni ddylai NTW ei ariannu.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol WGGB, Ellie Peers: “Mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo diwylliant Cymru ond nid yw storïau Cymru yn cael eu dweud. Mae gofynion yr awduron yn adlewyrchu pryderon yr ydym wedi codi gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae angen i gwmnïau theatr a chomisiynwyr teledu weithio gyda ni i sicrhau bod ysgrifenwyr Cymreig yn cael y cyfleoedd angenrheidiol i gynhyrchu eu gwaith ”
Dywedodd William Gwyn, Cadeirydd Pwyllgor Cymru o’r WGGB: “Credwn fod yr anfodlonrwydd hwn efo NTW yn enghraifft bellach o’r pryder cynyddol ymysg awduron Cymru bod portread o hunaniaeth ddiwylliannol Cymru dan fygythiad ar draws y cyfryngau.
“Mae WGGB yn gweithio’n ddiwyd, trwy ohebiaeth a chyfarfodydd gyda gwahanol gyrff megis Cyngor Celfyddydau Cymru ac S4C, i wella’r sefyllfa ac i sicrhau bod gan awduron Cymru – yn rhai newydd yn ogystal â rhai sefydledig – lwyfannau ar gyfer eu gwaith.
“Mae’r llythyr at NTW yn brawf pellach, os oes angen prawf, ei bod hi’n hen bryd cael trafodaeth genedlaethol yng Nghymru am hunaniaeth ddiwylliannol a sut mae’n cael ei bortreadu yn ein theatrau, ar ein sgriniau teledu ac yn ein sinemâu.”
Y llynedd, mynegodd cyn-Gadeirydd Pwyllgor Cymru o’r WGGB Manon Eames bryderon am ddiffyg cyfleoedd i dalent Cymreig yn Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Siaradodd cangen Cymru hefyd am benderfyniad Theatr y Sherman yng Nghaerdydd i benodi siaradwr di-Gymraeg fel eu cyfarwyddwr cyswllt newydd ac am gomisiynu dim ond pedair drama Gymraeg ers 2013, o’i gymharu â 15 yn Saesneg ac un ddrama ddwyieithog .
Llun: Shutterstock.com/Stephen Rees