I gael gwybodaeth am drefniadau Prif Swyddfa’r WGGB, gan gynnwys gwasanaethau i aelodau yn ystod y pandemig, ynghyd â manylion ffynonellau cyllid a chefnogaeth ledled y DU gydag iechyd, iechyd meddwl, gwaith a mwy, ewch i’n tudalen wybodaeth ganolog Covid-19.
I gysylltu â’n cangen yng Nghymru e-bostiwch wales@writersguild.org.uk
Gwefannau defnyddiol i awduron yng Nghymru
Yn dilyn lobïo gan y WGGB a’r undebau creadigol eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau £8.9m yn ychwanegoi o gyllid Covid ar gyfer y gweithwyr llawrydd dderbyniodd arian yn y rownd ddiwethaf – i gael y manylion diweddaraf ar y Gronfa Llawrydd ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae gwefan Creative Wales yn ffynhonnell dda o wybodaeth ar Covid-19, ac yn cynnwys y manylion diweddaraf am gymorth brys i bobl greadigol, dolenni i Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r manylion diweddaraf am gyfyngiadau Covid-19. Cliciwch yma
Mae gan Busnes Cymru hwb Covid-19 gyda gwybodaeth gyfoes am Gronfa Adferiad Diwylliannol Cymru, gan gynnwys y Gronfa Lawrydd. Cliciwch yma
Mae gan Cyngor Celfyddydau Cymru fanylion am y gronfa Cysylltu a Ffynnu a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, a grëwyd i annog cynigion rhwng sefydliadau, unigolion a gweithwyr proffesiynol creadigol i ddechrau’r broses o ail-ddychmygu sut y gall gweithwyr creadigol gynnal eu hunain a darganfod gwahanol ffyrdd o weithio ar ôl Covid. Mae’r grantiau’n amrywio o £ 500 i £ 150,000 a gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf yma.
What Next? Caerdydd / Cymru oedd siapter gyntaf Cymru, sefydlwyd yn 2014 ac sydd bellach ar-lein. Maent yn cyfarfod yn rheolaidd i alluogi pobl sy’n ymwneud â’r celfyddydau i argymell gwerth y gwaith a wnânt, a chreu cysylltiadau â phobl o sectorau eraill. Darganfyddwch fwy yma.
Mae CULT Cymru yn brosiect dysgu dan arweiniad BECTU, mewn partneriaeth â’r WGGB, Undeb y Cerddorion ac Ecwiti, sy’n cynnig gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio i aelodau’r undebau hynny. Darganfyddwch fwy.
Mae gan Llenyddiaeth Cymru (y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth) adran newyddion ar ei gwefan, gyda manylion am gystadlaethau, datblygiad proffesiynol, cyllid a chyfleoedd eraill i awduron. Edrychwch arno yma.
Nod Clwstwr yw rhoi arloesedd wrth wraidd cynhyrchu yn y cyfryngau yn Ne Cymru, gan wthio sector sgrin lewyrchus Caerdydd o nerth i nerth. Mae’n darparu cyllid gyda’r nod o hyrwyddo gweithgaredd Ymchwil a Datblygu. Darganfyddwch fwy.
Sut i gymryd rhan/wneud mwy
Mae tudalen wybodaeth Covid WGGB yn cynnwys manylion am waith ymgyrchu’r undeb ar ran awduron ledled y DU yn ystod y pandemig, ynghyd â manylion am weithredaeth ar-lein a sut y gallwch chi gymryd rhan.
Newyddion cangen WGGB Cymru
Darllenwch y llythyr a anfonwyd at Weinidogion Llywodraeth Cymru gan WGGB, Bectu, Equity, Undeb y Cerddorion a CULT Cymru ar 22 Hydref 2020 yn galw am fwy o arian ar gyfer y Gronfa Lawrydd ac adferiad diwylliannol yn gyffredinol.
Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon gyda gwaith ymgyrchu a lobïo ein cangen yng Nghymru, felly nodwch y dudalen a pharhewch i ymweld â hi yn gyson.
Shutterstock.com/NadezdaMurmakova